Boundary Commission for Wales logo








Arolwg 2013

Ar 4 Mawrth 2011 cyhoeddodd y Comisiwn Arolwg 2013 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru yn unol â darpariaethau Deddf Etholaethau Seneddol 1986 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf System Bleidleisio Seneddol ac. Etholaethau 2011. Gallwch weld crynodeb o'r fframwaith statudol perthnasol ac ymagwedd gyffredinol y Comisiwn at yr arolygon yn llyfryn gwybodaeth y Comisiwn, 'Arolwg 2013 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru - Llyfryn Gwybodaeth'.

Beth sy’n Newid

Mae'r rheolau newydd yn golygu y bydd newidiadau sylweddol i etholaethau Seneddol ledled y DU. Yng Nghymru, mae'r goblygiadau hyn yn cynnwys:

Cynigion Cychwynnol

Mae'r Comisiwn yn cyhoeddi ei gynigion cychwynnol yn awr ar gyfer ymgynghori'n gyhoeddus arnynt. Mae'r cynigion hynny'n rhoi ystyriaeth ofalus i ddatblygiadau ers yr arolwg cyffredinol diwethaf, yn enwedig y newid sylfaenol i'r ddeddfwriaeth. Pwysleisir, fodd bynnag, mai rhai dros dro yw bob un o'r cynigion. Rhoddir pwys mawr ar y cyfle sy'n cael ei gynnig yn awr i bawb sy'n gysylltiedig wneud cynrychiolaethau i'r Comisiwn, pa un a ydynt yn cefnogi'r cynigion neu'n eu gwrthwynebu. Mae'r Comisiwn wedi penderfynu cyhoeddi cynigion cychwynnol ar gyfer Cymru gyfan mewn un ddogfen unigol. Lle'r oedd yn bosibl mewn arolygon blaenorol i gyflwyno cynigion trwy gyfeirio at yr 8 sir gadwedig yng Nghymru, nid yw hyn yn bosibl mwyach. Bu'n angenrheidiol cynnal yr arolwg hwn ar sail Cymru gyfan. 

Cynigion cychwynnol - dogfen lawn (60Mb).

Cynigion cychwynnol - dogfen heb fapiau (801Kb).

Cywiriad Adolygiad Cynigion Cychwynnol 2013 - Alyn and Deeside.

Mapiau a gwybodaeth ategol arall.

Dweud eich Dweud

Bydd ffurf derfynol ffiniau'r etholaethau newydd yn cael ei llywio gan ymgynghori. Fe'ch anogwn i gynnig sylwadau, pa un i gefnogi ein cynigion cychwynnol neu'u gwrthwynebu - byddwn yn ystyried yr holl gynrychiolaethau yn deg, a gallwch ddiwygio ffiniau etholaethau o ganlyniad i hynny. Gallwch ddweud eich dweud drwy ysgrifennu atom (naill ai drwy anfon e-bost atom yn comffin.cymru@wales.gsi.gov.uk neu drwy ysgrifennu at y Comisiwn Ffiniau i Gymru). Yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2012 byddwn yn cynnal cyfres o wrandawiadau cyhoeddus a bydd cyfle i'r cyhoedd roi'u barnau yn bersonol.

Beth Nesaf

Bydd y cyfnod cychwynnol ar gyfer cyflwyno cynrychiolaethau yn dod i ben ar 4 Ebrill 2012. Bydd y cynrychiolaethau cychwynnol a'r trawsgrifiadau o'r gwrandawiadau cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi wedyn yn Gymraeg ac yn Saesneg, a bydd cyfnod pellach yn cael ei roi wedyn i gyflwyno cynrychiolaethau. Ar ôl ystyried y cynrychiolaethau, efallai yr ystyrir ei bod yn briodol cyhoeddi cynigion diwygiedig. Byddai cyfnod ymgynghori pellach yn digwydd wedyn. Bydd yr argymhellion terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn 1 Hydref 2013.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â’r Arolwg 2013.